YMATEB LLYWODRAETH CYMRU I Argymhellion ADRODDIAD Y PWYLLGOR PLANT, POBL IFANC AC ADDYSG:Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24
MAWRTH 2023
Diolch i'r Pwyllgor am ei waith wrth graffu ar Gyllideb Ddrafft 2023-24. Rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am ei adborth ar y papurau tystiolaeth ysgrifenedig a'i adborth yn ystod y sesiynau tystiolaeth lafar a gynhaliwyd ar 11 a 18 Ionawr 2023. Mae'r adroddiad hwn yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r 19 o argymhellion a nodir yn adroddiad y Pwyllgor.
|
Argymhelliad 1. Rhaid i Lywodraeth Cymru lunio Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer ei Chyllideb Ddrafft i ddangos ei bod yn cydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, fel y nodir yn ei Chynllun Hawliau Plant ei hun. |
Ymateb: Gwrthod
Rydym yn parhau o'r farn bod cynnal asesiadau effaith drwy ddull integredig yn ein galluogi i feithrin dealltwriaeth well o effaith penderfyniadau ar wariant, gan geisio deall effeithiau trawstoriadol ac anfwriadol gwariant yn well er mwyn sicrhau y caiff y cyllid sydd ar gael yr effaith fwyaf posibl.
Ar y llaw arall, mae ystyried maes effaith ar ei ben ei hun yn peri risg o ganlyniadau anfwriadol fel effaith negyddol mewn un maes wedi'i llywio gan effaith gadarnhaol mewn maes arall. Gall dealltwriaeth well o'r modd y gellir integreiddio meysydd gwahanol alluogi cyllid i gael ei dargedu'n fwy effeithiol, gan sicrhau y gall gael yr effaith fwyaf posibl.
Credwn fod dull o'r fath yn ein galluogi i roi sylw cytbwys a dyledus i'r hawliau a bennir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn fwy effeithiol. Mae'r dull hwn yn tynnu ar amrywiaeth o dystiolaeth a gwybodaeth, gan gynnwys asesiadau effaith manwl ar bolisi, gan gynnwys yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant a gynhaliwyd fel rhan o'n gwaith parhaus i ddatblygu ac adolygu polisïau.
Rydym yn parhau'n ymrwymedig i adolygu ein dull o asesu effeithiau yn barhaus fel rhan o Gynllun Gwella'r Gyllideb, a gyhoeddir bob blwyddyn, a byddwn yn fwy na pharod i ystyried sut y gallwn adlewyrchu hawliau plant yn well fel rhan o'r gwaith hwn. Rydym yn fwy na pharod i gynnig briff technegol ar yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a'r gwelliannau rydym yn eu gwneud drwy Gynllun Gwella'r Gyllideb i'r Pwyllgor.
|
Argymhelliad 2. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gweithgor trawsadrannol i wella ansawdd a chysondeb y dystiolaeth ysgrifenedig y mae’n ei rhoi i Bwyllgorau’r Senedd i gefnogi’r broses o graffu ar y Gyllideb Ddrafft, gan fanteisio ar yr arfer da a geir eisoes ar draws adrannau’r llywodraeth. BGB |
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Fel Llywodraeth, rydym yn ymrwymedig i ystyried sut y gallwn wella gwybodaeth am ein penderfyniadau cyllidebol. Mae'r camau rydym yn eu cymryd wedi'u nodi yng Nghynllun Gwella'r Gyllideb a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ochr yn ochr â'r Gyllideb Ddrafft.
Byddem yn fwy na pharod i ystyried y materion penodol a nodwyd gan y pwyllgor mewn perthynas â'r papur tystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor hwn.
Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn trafod unrhyw bryderon ehangach fel rhan o'i ymwneud rheolaidd â'r Pwyllgor Cyllid, gan gydnabod bod angen i unrhyw welliannau fod yn gymesur.
|
Argymhelliad 3. Dylai Llywodraeth Cymru warantu y caiff y rhaglen prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol ei hymestyn drwy gydol cyfnod cyllideb 2023-24: hyd at a chan gynnwys gwyliau ysgol mis Chwefror 2024. |
Ymateb: Gwrthod
Rydym wedi nodi'n glir mai Llywodraeth y DU yn bennaf sydd â'r pwerau a'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i leihau tlodi a mynd i'r afael â'r cynnydd mewn costau byw.
Mae ein cyllideb ar gyfer 2023-34 yn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym yn dal i wynebu dewisiadau anodd iawn.
Fel y mae'r Pwyllgor yn ymwybodol, cawsom setliad heriol tu hwnt gan Lywodraeth y DU ac, o ganlyniad, ni fu modd inni ddyrannu rhagor o gyllid yng Nghyllideb Ddrafft 2023-24 er mwyn helpu i barhau i ddarparu prydau bwyd yn ystod y gwyliau i'r rhai sy'n draddodiadol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, lle mae angen a ddiffiniwyd wedi cyfiawnhau ailddyrannu cyllid yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r ddarpariaeth yn ystod y gwyliau, felly y bu. Yn unol â'n dull gweithredu yn y gorffennol, adolygir y maes hwn yn barhaus a chaiff unrhyw benderfyniadau eu rhannu drwy'r sianeli arferol.
|
Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru greu Llinell Wariant ychwanegol yn y Gyllideb o fewn Cam Gweithredu y Grant Datblygu Disgyblion (neu ba Gam Gweithredu bynnag sy’n briodol) ar gyfer Hanfodion Ysgol, er mwyn gwahanu’n glir y cyllid a ddyrennir i’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer ysgolion ar y naill law, ac i Hanfodion Ysgol ar gyfer teuluoedd ar y llall. |
Ymateb: Gwrthod
Er ein bod yn croesawu awydd y Pwyllgor i gadw rheolaeth lawn dros linellau gwariant a'r cymorth sydd ei angen i gynyddu gwelededd llinellau cyllidebol ar wahân, byddai creu Llinell Wariant Ychwanegol yn y Gyllideb yn cymhlethu cyllidebau Addysg yn gyffredinol – mewn gwirionedd mae maes gwaith parhaus yn ceisio rhesymoli strwythurau cyllidebol.
Fodd bynnag, gallwn gadarnhau nad oes unrhyw rwystr i ddarparu dadansoddiad o gyllidebau unigol islaw lefel Llinell Wariant yn y Gyllideb i'r Pwyllgor fel rhan o dystiolaeth ysgrifenedig yn y dyfodol, a chynigiwn y dylid newid enw'r Llinell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion i 'Mynd i'r Afael â Rhwystrau i Gyrhaeddiad', gyda'r Grant Datblygu Disgyblion a Hanfodion Ysgol yn ddwy linell allweddol yn y gyllideb oddi mewn iddi er mwyn rhoi mwy o eglurder yn y dyfodol. Cynigiwn y dylai'r newid hwn i'r enw gael ei roi ar waith ar gyfer Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24.
|
Argymhelliad 5. Rhaid i Lywodraeth Cymru egluro’r canlynol: · a oes rhaid i ysgolion dalu costau dyfarniad cyflogau athrawon blwyddyn academaidd 2022-23 gan ddefnyddio’r cyllid a roddwyd iddynt drwy'r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022-23 a 2023-24; a · faint o gyllid ychwanegol y mae’n disgwyl y bydd ar gael i ysgolion yn 2023-24 o gymharu â 2022-23 ar ôl talu costau dyfarniad cyflogau athrawon 2022-23. |
Ymateb: Derbyn
Yn 2023-24, caiff awdurdodau lleol £5.5 biliwn gan Lywodraeth Cymru drwy gyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 7.9% neu £403 miliwn ar sail gyfatebol o gymharu â'r flwyddyn gyfredol (cynnydd o £412m mewn arian parod). Ni chaiff yr un awdurdod gynnydd o lai na 6.5%.
O ganlyniad i benderfyniadau ar wariant ar addysg yn Lloegr, cafodd Cymru ddyraniad canlyniadol o £117m y flwyddyn yn Natganiad yr Hydref. Mae'r ffigur hwn yn cael ei ddarparu'n llawn i lywodraeth leol, ac mae llywodraeth leol wedi cadarnhau ei bod yn blaenoriaethu cyllid i ysgolion. Caiff penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion a gwasanaethau eraill eu gwneud gan bob awdurdod wrth bennu ei gyllideb gyffredinol a'i dreth gyngor. Rhaid i gynghorau bennu eu cyllidebau erbyn 10 Mawrth fan bellaf. Disgwylir i awdurdodau lleol dalu costau'r cytundeb cyflog drwy'r cyllid cyffredinol sydd ar gael iddynt; mae hyn yn cynnwys y setliad llywodraeth leol heb ei neilltuo, eu hadnoddau eu hunain, er enghraifft drwy'r dreth gyngor a grantiau penodol cysylltiedig, lle y bo'n briodol.
Er bod trafodaethau yn mynd rhagddynt o hyd, mae datganiad ysgrifenedig Gweinidog y Gymraeg ac Addysg dyddiedig 9 Chwefror yn nodi, pe bai elfen gyflog y cynnig yn cael ei derbyn, y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu cost y 3% ychwanegol arfaethedig yn 2022-23 yn llawn. Bydd Llywodraeth Cymru a CLlLC yn parhau i drafod sut y gellir ariannu cost y cynnydd cyfunedig o 1.5% yn y dyfodol heb effeithio ar gyllidebau ysgolion.
|
Argymhelliad 6. Rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol o’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a dylai gyflwyno adroddiad erbyn mis Rhagfyr 2023 fan bellaf. Dylai'r adolygiad ystyried: · effaith y lwfans ar benderfyniadau dysgwyr i ymgymryd ag astudio pellach; · effaith y lwfans ar ymgysylltiad dysgwyr â'u hastudiaethau ar ôl iddynt gofrestru; · effaith y lwfans ar allu dysgwyr i ymdopi â phwysau ariannol yn fwy cyffredinol, yn benodol yng ngoleuni'r argyfwng costau byw; · yng nghyd-destun yr uchod, beth ddylai'r meini prawf cymhwysedd a gwerth y cymorth ar gyfer y lwfans fod; a · sut y dylid cadw llygad ar y meini prawf a gwerth cymorth yn y dyfodol. |
Ymateb: Derbyn
Byddwn yn dechrau gwaith i gomisiynu adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ystyried y pwyntiau a wnaed yn argymhelliad y Pwyllgor. Yn amodol ar amserlenni i gomisiynu a chwblhau'r adolygiad, byddwn yn ceisio cyflwyno adroddiad drafft erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023.
|
Argymhelliad 7. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau’r gwaith y mae wedi’i wneud ers ei hymateb ym mis Mawrth 2022 i’n hadroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 er mwyn deall beth fyddai cyfradd y lwfans a’r trothwyon incwm heddiw, ar gyfer yr un gyfran o ddysgwyr o gymharu â 2004, a faint o gyllideb ychwanegol y byddai ei hangen. |
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Mae crynodebau o'r gwaith a wnaed i gynyddu cyfradd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) wedi'u darparu drwy ymatebion amrywiol hyd yma, ac mae'r rhain wedi nodi'r gofyniad cyllidebol ychwanegol am gyfradd o £45 yr wythnos, sef tua £8m y flwyddyn, gan gynyddu i £15m+ y flwyddyn pe baem yn cynyddu'r trothwyon heb ystyriaethau ehangach. Ni all Llywodraeth Cymru bennu nifer cyfatebol y myfyrwyr cymwys a gefnogwyd yn 2004 o ganlyniad i ddiffyg data ar incwm aelwydydd a dibynyddion. Fodd bynnag, bellach gellir cynnwys carfannau ac effeithiau posibl ar gyfer LCA yn yr adolygiad annibynnol. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi pan fydd wedi'i gwblhau.
|
Argymhelliad 8. Rhaid i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i "gynnal" yr LCA sydd, i bob pwrpas, wedi arwain at LCA â llai o werth mewn termau real i lai o fyfyrwyr. |
Ymateb: Derbyn
Bydd canfyddiadau'r adolygiad annibynnol yn llywio unrhyw newidiadau i Gynllun LCA.
|
Argymhelliad 9. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn argymell ar y cyd y dylai Llywodraeth Cymru roi manylion i’r ddau bwyllgor ynghylch sut mae Gweinidog yr Economi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn cydweithio ar gymhellion i bobl ifanc aros mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Dylai hyn gynnwys unrhyw waith sy'n cael ei wneud o ganlyniad i'r cynnydd mewn costau byw. |
Ymateb: Derbyn
Gwnaethom gyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Warant i Bobl Ifanc (2022) ar 8 Chwefror 2023.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni a gyflwynwyd gennym i gyrraedd y Garreg Filltir Genedlaethol, sef ‘sicrhau bod 90% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’ a chefnogi pobl ifanc a sefydliadau yn wyneb yr argyfwng costau byw.
Mae hyn yn cynnwys y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid diwygiedig a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET yn gynnar, yn yr ysgol a hyd at 18 oed.
Mae'n ymwneud â deall eu hanghenion, rhoi cymorth neu ddarpariaethau priodol ar waith a monitro eu cynnydd. Mae'r Fframwaith hefyd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac mae'n ceisio sicrhau y caiff pobl ifanc eu nodi a’u cefnogi cyn iddynt wynebu argyfwng.
Ym mis Ebrill, gwnaethom lansio Twf Swyddi Cymru+, yn lle'r rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Hyfforddiaethau presennol. O dan Twf Swyddi Cymru+, caiff pobl ifanc 16-18 oed gymorth unigol er mwyn rhoi'r hyder, y sgiliau, a'r profiad iddynt symud ymlaen i addysg bellach, dod o hyd i swydd neu barhau mewn cyflogaeth. Mae cymorthdaliadau cyflog o hyd at 50% ar gyfer y chwe mis cyntaf a hyfforddiant mewn swydd ar gael i fusnesau sy'n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed drwy'r cynllun.
Ers ei lansio (ac erbyn mis Medi 2022), mae 3,470 o unigolion wedi dechrau Twf Swyddi Cymru+, gyda 1,270 ohonynt wedi cwblhau eu rhaglenni a mwy na 50% wedi sicrhau deilliant cadarnhaol hyd yma.
Ym mis Ionawr 2023, gwnaethom gyflwyno amrywiaeth o gymorth pellach er mwyn helpu pobl ifanc yn ystod yr argyfwng costau byw drwy leihau'r rhwystrau ariannol y gallant fod yn eu hwynebu wrth geisio ymuno â'r rhaglen a pharhau arni.
Mae'r cymorth ychwanegol yn cynnwys:
· Dyblu cyfradd y Lwfans Hyfforddi i £60;
· Lwfans prydau am ddim newydd;
· Caniatáu i 100% o gostau teithio gael eu hawlio dros dro (mewn perthynas â hyfforddiant)
· Ymestyn yr ystod oedran gymwys ar gyfer cofrestru â'r Rhaglen i 19 oed.
Ar wahân i hyn, mae'r argyfwng costau byw yn her fawr i golegau, felly mae angen inni ystyried ffyrdd newydd o weithio. Bydd Cronfa Arloesi gwerth £5m newydd yn galluogi darparwyr AB i ystyried ffyrdd newydd creadigol o weithio a chydweithio ag eraill yn y sector er budd dysgwyr.
O ran addysg uwch, rydym eisoes wedi penderfynu bod cyfradd y cymorth i fyfyrwyr yn gysylltiedig â gwerth y Cyflog Byw Cenedlaethol. Ym mlwyddyn ariannol 2023-24, bydd cyfradd y cymorth cynhaliaeth a delir i fyfyrwyr addysg uwch llawn amser a rhan-amser yn cynyddu 9.4% ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd o 2.8% i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yn Lloegr.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi'r amrywiaeth o gamau eraill a gymerwyd hyd yma.
|
Argymhelliad 10. Rhaid i Lywodraeth Cymru egluro ei safbwynt polisi ar gronfeydd wrth gefn ysgolion. Yn benodol: · pa ffrydiau cyllid y gall ysgolion eu trosglwyddo i gronfeydd wrth gefn; · ar gyfer beth y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ysgolion, ac yn benodol a all ysgolion eu defnyddio at ddibenion cyfalaf (gyda chydsyniad priodol yr awdurdod lleol perthnasol); a · sut mae’n disgwyl i awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i daro cydbwysedd priodol rhwng ymreolaeth ysgolion a'r defnydd priodol o gronfeydd ar gyfer disgyblion ledled Cymru (gan gynnwys defnydd awdurdodau lleol o’u pwerau statudol i gyfarwyddo ysgolion i wario balansau uwchlaw trothwyon penodedig neu adennill y cronfeydd hynny fel arall). |
Ymateb: Derbyn
Cyfrifoldeb ysgolion yw rheoli eu cyllid eu hunain. Mae cronfeydd wrth gefn yn ymwneud ag unrhyw ddiffyg mewn gwariant o gymharu â chyfran unigol ysgol o'r gyllideb a/llai unrhyw falans a gariwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol. Bydd lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgol unigol ar unrhyw adeg yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Bydd y rhain yn cynnwys amseriad incwm a thaliadau, lefel y gronfa wrth gefn sy'n briodol ym marn corff llywodraethu'r ysgol a'r cynlluniau gwariant penodol sydd gan bob ysgol.
Caniateir i gyrff llywodraethu ddefnyddio eu cyfrannau o'r gyllideb i dalu cost gwariant cyfalaf ar safle'r ysgol. Mae cynlluniau ariannol awdurdodau lleol yn nodi terfynau lleol y mae'n rhaid i ysgol roi gwybod i'w awdurdod lleol amdanynt er mwyn defnyddio cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer gwariant cyfalaf a'r broses i'w dilyn.
Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 yn caniatáu i awdurdodau lleol gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol i wario gwarged ym mantolen yr ysgol ar gyfer y cyfnod cyllido, ac wedi hynny adennill gwargedau uwchlaw trothwy penodol. Os na fydd corff llywodraethu'n cydymffurfio â chyfarwyddeb o'r fath, gall awdurdodau adennill rhan o'r gwarged hwnnw neu'r gwarged cyfan a'i ddyrannu i Gyllideb Ysgolion gyffredinol yr awdurdod i'w ail-neilltuo i ysgolion neu er budd ysgolion fel y'i pennir gan yr awdurdod.
Mae Rheoliadau 2010 yn nodi y dylai cynllun awdurdod lleol ar gyfer cyllido ysgolion ragnodi datganiad gan y corff llywodraethu ar yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud gyda gwarged sy'n fwy na 5% o gyllideb yr ysgol neu £10k, pa un bynnag sydd fwyaf. Dylai ysgolion â gwargedau fod yn ddarostyngedig i waith monitro parhaus gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y caiff cynlluniau a gymeradwywyd i wario eu balansau eu cyflawni ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt gyda'r awdurdod. Diben darpariaeth o'r fath yw caniatáu i awdurdodau lleol fonitro balansau dros ben, nid sefydlu trefn reoli gyffredinol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig adolygiad o Reoliadau Cyllid Ysgolion (Cymru) 2010 ac mae wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i geisio eu barn. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r ddarpariaeth yn ymwneud â lefelau gwargedau a galluoedd awdurdodau lleol i gymryd camau lle bo angen.
Gwyddom mai sefyllfa dros dro yw lefel uchel y cronfeydd wrth gefn a gofnodwyd dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gau ysgolion a llai o weithgarwch yn ystod y pandemig. Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion i reoli eu cronfeydd wrth gefn mewn modd hyblyg yng ngoleuni'r amgylchiadau hyn.
|
Argymhelliad 11. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai’r data y mae’n eu cyhoeddi ar gronfeydd wrth gefn ysgolion ddangos lefelau cronfeydd wrth gefn ysgolion yn ôl ffactorau fel canran y disgyblion ar y gofrestr fel cyfran o gyfanswm capasiti disgyblion, canran y disgyblion ar y gofrestr y mae eu teuluoedd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion, canran y disgyblion ar y gofrestr sydd wedi’u nodi ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, natur wledig yr ysgol, ac unrhyw ffactorau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn addas. |
Ymateb: Derbyn
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth ystadegol fanwl am gronfeydd wrth gefn ysgolion megis lefelau fesul disgybl, yn ôl sector a newidiadau o flwyddyn i flwyddyn ar StatsCymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion cronfeydd wrth gefn ar gyfer pob ysgol unigol ar 'Fy Ysgol Leol’, ochr yn ochr â data ar ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, anghenion dysgu ychwanegol, Saesneg fel iaith ychwanegol, disgyblion ethnig lleiafrifol a data eraill.
|
Argymhelliad 12. Dylai Llywodraeth Cymru egluro manylion y gwariant trawslywodraethol a fydd yn cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg a datblygiad sgiliau Cymraeg ym mhob lleoliad addysg. |
Ymateb: Derbyn
Darperir cyllid ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg o'r blynyddoedd cynnar hyd at ddarpariaeth ôl-16, er mwyn sicrhau twf addysg Gymraeg a bod disgyblion o bob oed yn meithrin eu sgiliau Cymraeg ym mhob lleoliad addysgol. Wrth ystyried y datblygiadau pwysig i addysg cyfrwng Cymraeg yn y cwricwlwm newydd, mae sicrhau parhad ieithyddol o addysg statudol i bob elfen o addysg a hyfforddiant ôl-16 yn hollbwysig.
Y Blynyddoedd Cynnar
Yn 2023-24, byddwn yn parhau i ddyrannu £3.031m i'r Mudiad Meithrin, sy'n cyfrannu at darged Cymraeg 2050 i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal â hynny, dyrennir £0.730m y flwyddyn i'r Mudiad Meithrin er mwyn rheoli'r contract Cymraeg i Blant, sy'n gweithio i gynyddu nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg drwy gyfres o sesiynau am ddim i rieni a'u plant.
Fel rhan o Gytundeb Cydweithio i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed, wedi'i ariannu drwy gyllideb y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rhoddir ffocws penodol ar ddarparu gofal plant cyfrwng Cymraeg a'i atgyfnerthu. Ym mis Medi 2022, gwnaethom gyhoeddi y bydd £3.7m ar gael i Cwlwm dros dair blwyddyn ariannol 2022-23, 2023-24 a 2024-25 i gefnogi'r gwaith o ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar, gyda rhywfaint o'r cyllid hwnnw yn cael ei ddyrannu i'r Mudiad Meithrin i ddarparu cyrsiau hyfforddi.
Addysg Statudol
Yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), mae awdurdodau lleol wedi ymrwymo i dargedau uchelgeisiol i gynyddu canran y dysgwyr sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg i 30%, yn unol â’r uchelgeisiau yn Cymraeg 2050. Rydym eisoes wedi buddsoddi £112m drwy’r grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg, sy'n ychwanegol at unrhyw fuddsoddiad drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rydym hefyd yn buddsoddi £6.6m o gyllid refeniw dros dymor y Senedd hon i gefnogi pob awdurdod lleol i ddatblygu neu ehangu ei ddarpariaeth trochi hwyr, sy'n cefnogi mwy na 60 o athrawon/cynorthwywyr dosbarth trochi hwyr arbenigol.
Mae £0.6m y flwyddyn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yng nghynllun E-sgol i ehangu cyfleoedd dysgu ôl-14 i ddysgwyr astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg na fyddent ar gael iddynt fel arall.
Ôl-16
Mae cyllid ôl-16 i awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach yn cynnwys cyllid ychwanegol i ddarparu cyrsiau’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar gyfer 2023-24, caiff awdurdodau lleol £2,996m i gefnogi darpariaeth mewn ysgolion chweched dosbarth, a chaiff colegau addysg bellach £3,902m ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Caiff darparwyr prentisiaethau gyllid ychwanegol hefyd i gefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg/dwyieithog. Cyfrifir a thelir y cyllid ychwanegol hwn yn fisol, ochr yn ochr â phrif ddyraniadau'r darparwyr.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n cael cyllid craidd o ychydig dros £7m y flwyddyn, yn gweithio gyda cholegau a darparwyr prentisiaethau i gynyddu capasiti yn y sector ôl-16, gyda'r grant yn cefnogi'r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg. Ym maes addysg uwch, mae'r cyllid yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yn uniongyrchol.
Yn unol â'r Cytundeb Cydweithio, buddsoddwyd £8m ychwanegol hyd at 2024-25, er mwyn buddsoddi yn y Coleg i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector prentisiaethau ac addysg bellach, a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu cyrsiau dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed a staff addysgu.
|
Argymhelliad 13. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau ar gyfer y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg 2023-24, gan gynnwys cyfanswm y dyraniadau cyllid ar gyfer y rhaglen, nifer yr ymgeiswyr a ragwelir, y cymorth – yn ariannol neu fel arall – a ddarperir i ysgolion i alluogi athrawon i ddilyn y cynllun sabothol, a sut mae'n monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen. |
Ymateb: Derbyn
Fel yr amlinellwyd ym mhapur tystiolaeth Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Pwyllgor, dyrennir £3.6m i barhau i gynnal y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn 2023-24. Mae swyddogion yn dal i weithio gyda darparwyr a chonsortia rhanbarthol i gadarnhau'r rhaglen o gyrsiau, sy'n debygol o gynnwys 16 o gyrsiau ar lefelau amrywiol ar gyfer tua 232 o ymarferwyr. Ceir gwybodaeth am lefelau amrywiol y cyrsiau ar Hwb.
Rhennir cyllid y Cynllun Sabothol yn dair elfen gwariant. Dyrennir cyllid i ddarparu'r cyrsiau i dri darparwr drwy gontract wedi'i gaffael. Cost darparu'r cyrsiau yn 2023-24 fydd tua £0.930m. Defnyddir ail elfen y cyllid i dalu cost rhyddhau ymarferwyr o ysgolion i ymgymryd â'r cyrsiau. Telir costau cyflenwi i'r ysgolion er mwyn sicrhau y gellir rhyddhau'r ymarferwyr am gyfnod rhwng pum wythnos a blwyddyn (yn dibynnu ar hyd y cwrs). Cyfanswm bras y gwariant ar gostau cyflenwi yw £2.6m. Diben trydedd elfen y cyllid yw talu costau teithio ychwanegol er mwyn i'r ymarferwyr fynychu lleoliadau'r cyrsiau. Cyfanswm bras y gwariant ar gostau teithio yw £0.070m yn seiliedig ar hawliadau gwirioneddol gan ymarferwyr unigol.
Caiff ysgolion eu cefnogi gan y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i nodi ymarferwyr i ymgymryd â'r cyrsiau gwahanol. Drwy wneud hyn, gallwn sicrhau ein bod yn targedu ymarferwyr a all wneud gwahaniaeth pan fyddant yn dychwelyd i'r ysgol. Mae pecyn 'camau nesaf' wedi'i ddatblygu i gefnogi ymarferwyr wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol ar ôl cwblhau'r cyrsiau, ac mae'r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol hefyd yn monitro eu cynnydd ac yn darparu cymorth i wneud gwelliannau i'r modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu a'i dysgu.
|
Argymhelliad 14. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi’n glir, drwy ddiagram neu fel arall, y strwythurau llywodraethu sy’n goruchwylio’r gwaith o werthuso a chyflwyno Rhaglen y Warant i Bobl Ifanc a'r Rhaglen Gradd-brentisiaethau. |
Ymateb: Derbyn
Er mai Gweinidog yr Economi sy'n bennaf cyfrifol am y Warant i Bobl Ifanc, mae'n un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu ac mae'r cabinet cyfan wedi ymrwymo i'w darparu. Ceir crynodeb o'r prif raglenni a chynlluniau (yn ogystal â chyfrifoldeb y Gweinidog arweiniol) a nodwyd o fewn cwmpas y Warant i Bobl Ifanc yn y tabl isod.
|
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg |
Gweinidog yr Economi |
|
Chweched Dosbarth |
Cymru'n Gweithio |
|
Addysg Bellach (Llawnamser) |
Prentisiaethau – gan gynnwys Gradd-brentisiaethau |
|
Addysg Bellach (Rhan-amser) |
Twf Swyddi Cymru+ |
|
Dysgu Oedolion yn y Gymuned Awdurdod Lleol |
ReAct+ |
|
Adnewyddu a Diwygio |
Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol |
|
Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg |
Cymorth Hunangyflogaeth |
|
Cyfrifon Dysgu Personol* |
|
|
Cymorth i Fyfyrwyr Addysg Uwch |
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru |
* Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn ymrwymiad portffolio ar y cyd ond Gweinidog y Gymraeg ac Addysg sy'n bennaf gyfrifol am bolisi a chyllideb.
Mae Atodiad 1 i Adroddiad Blynyddol y Warant i Bobl Ifanc (2022) y cyfeiriwyd ato eisoes yn nodi'r allbynnau ystadegol a'r setiau data sy'n berthnasol i'r Warant i Bobl Ifanc sydd, ochr yn ochr â'n Sgwrs Genedlaethol ac amrywiaeth o waith arolygu a gwerthuso arall, yn llywio dyluniad y rhaglen a'r gwaith o'i monitro. Ein nod yw darparu dadansoddiad mwy cyflawn o'r data a'r canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan nodi bod y ffynonellau yn ymwneud â chyfuniad o flynyddoedd academaidd ac ariannol y bydd angen i rai ohonynt fod yn destun mesurau dilysu caeth cyn eu cyhoeddi.
Mae gan y prif raglenni sy'n rhan o gwmpas y Warant i Bobl Ifanc eisoes eu mecanweithiau monitro unigol ac yn dilyn blwyddyn gyntaf y Warant i Bobl Ifanc, rydym wrthi'n comisiynu cyflenwr allanol i gynnal Gwerthusiad Proses ac Asesiad Gwerthusadwyedd Ffurfiannol o'r Warant i Bobl Ifanc. Disgwylir i'r gwaith hwn bara tan haf 2024. Bydd y gwaith hwn yn darparu fframwaith ar gyfer asesiad cadarn, systematig ac amserol o ddyluniad y Warant i Bobl Ifanc, y broses o'i rhoi ar waith, ei deilliannau a, lle y bo'n bosibl, ei heffaith ar bobl ifanc a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru.
Ceir Bwrdd Rhaglen Gwarant i Bobl Ifanc a Bwrdd Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau ar lefel swyddogol, sy'n cynnwys swyddogion o'r ddau bortffolio a'r mwyafrif o'r swyddogion sy'n arwain ar faterion yn ymwneud â'r Warant i Bobl Ifanc o dan yr un Cyfarwyddwr Cyffredinol.
O ran Gradd-brentisiaethau, Gweinidog yr Economi sy'n gyfrifol am bolisi gradd-brentisiaethau, ond caiff y rhaglen ei hariannu ar y cyd gan Weinidog yr Economi a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Mae'r trefniant hwn yn adlewyrchu'r awydd i gefnogi addysg uwch seiliedig ar waith a datblygiad sectorau blaenoriaeth yng Nghymru, ac mae'n helpu i ehangu'r arlwy addysg bellach yng Nghymru.
Caiff cyllid Gradd-brentisiaethau ei ddyrannu i CCAUC bob blwyddyn i ddarparu'r Rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru. Mae CCAUC yn cyhoeddi cylchlythyr blynyddol yn gwahodd darparwyr addysg uwch rheoleiddiedig yng Nghymru i gyflwyno cynigion am gyllid i ddarparu rhaglenni gradd-brentisiaethau ym meysydd blaenoriaeth digidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Ymhlith yr egwyddorion y rhoddir blaenoriaeth iddynt yng nghanllawiau CCAUC mae'r canlynol: cydweithio ar draws sectorau addysg er mwyn sicrhau y caiff llwybrau cynnydd eu sefydlu; cefnogi unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ym maes addysg uwch; a sicrhau bod rhaglenni'n cyfrannu at Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Caiff y cynigion eu hystyried gan banel wedi'i gadeirio gan aelod o Gyngor CCAUC a swyddogion o Lywodraeth Cymru, Diwydiant Cymru a CCAUC yn erbyn y meini prawf a nodir yn y canllawiau.
Mae swyddogion o CCAUC a Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yn fisol i adolygu a monitro cynnydd y rhaglen, gan gynnwys recriwtio, cynnydd ac ansawdd a pherfformiad ariannol.
Comisiynwyd gwerthusiad ffurfiannol o'r Rhaglen Gradd- brentisiaethau yng Nghymru yn 2020, er mwyn asesu ei heffeithiolrwydd, ei heffeithlonrwydd, a'i heffaith gychwynnol, Gwerthusiad o’r Rhaglen Gradd-brentisiaethau: Adroddiad Terfynol | LLYW.CYMRU.
Mae'r adroddiad gwerthuso yn rhoi cefndir a hanes i ddatblygiad gradd-brentisiaethau yng Nghymru ac mae hefyd yn cynnwys datblygiad fframwaith effaith amlinellol a model dadansoddi cost a budd i'w defnyddio yn y dyfodol mewn unrhyw werthusiad o'r rhaglen gradd-brentisiaethau.
|
Argymhelliad 15. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi’r canlynol:▪ · Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r sector addysg bellach a'r sector addysg uwch i ddatblygu ei dull strategol o gefnogi a datblygu ymchwil ac arloesi. · Y mecanweithiau y mae gweision sifil o wahanol adrannau Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gydweithio i ddatblygu cynigion polisi a chyllid i Weinidogion Cymru eu hystyried. · Y mecanweithiau y mae Gweinidogion perthnasol Cymru yn eu defnyddio i ystyried y cynigion gan eu swyddogion a chytuno arnynt, a sut y gwneir penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid ar draws eu portffolios. · Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso gwerth am arian ei buddsoddiadau ym maes ymchwil ac arloesi. · Sut mae Llywodraethau Cymru yn gweithio ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU a sefydliadau addysg ôl-16 y tu allan i Gymru mewn perthynas â’r uchod. |
Ymateb: Derbyn
Mae gan Lywodraeth Cymru gydberthynas gynhyrchiol sydd o fudd i bawb â Rhwydwaith Arloesi Cymru, menter addysg uwch y bwriedir iddi ddatblygu ymchwil gydweithredol a strategol yng Nghymru. Mae swyddogion o'r Llywodraeth hefyd yn cymryd rhan ym Mhwyllgor Ymchwil Cymru CCAUC sy'n cefnogi Cyngor CCAUC yn ei rôl fel cyllidwr ymchwil.
O fewn y sector addysg bellach, mae'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth yn cefnogi colegau i gaffael arbenigwyr technegol allanol i lywio datblygiad proffesiynol y gweithlu. Mae hyn y digwydd ar ffurf gweithdai, darlithoedd, cynlluniau cyfnewid swydd, ac ymchwil, sy'n anelu at uwchsgilio staff addysgu, er mwyn cynnal eu gwybodaeth arbenigol am y sector a gwella datblygiad y cwricwlwm. Yn ogystal, fel rhan o'n dull o ymdrin â Datblygiad Proffesiynol, rydym yn gweithio gydag Undeb y Prifysgolion a'r Colegau i gynyddu'r cyfleoedd i staff gymryd rhan mewn prosiectau Ymchwil Weithredu.
Drwy'r llythyr cylch gwaith blynyddol, sy'n nodi blaenoriaethau Gweinidogol ar gyfer CCAUC a'r sector, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i'w ddosbarthu i'r sector. Cyhoeddir y llythyr Gweinidogol hwn yn dilyn ymgynghoriad â chydweithwyr ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cydweithwyr ym maes ymchwil ac arloesi, ac mae'n amlinellu blaenoriaethau trawslywodraethol mewn perthynas ag addysg uwch. Mae CCAUC yn dyrannu rhan fawr o'r cyllid hwn, sef cyfanswm o fwy na £105m ym mlwyddyn academaidd 2022/23, i gefnogi gweithgareddau ymchwil, arloesi ac ymgysylltu.
Un enghraifft gyfredol o gydweithio â'r sector yw Rhaglen Sêr Cymru, a gefnogir gan gyllid yr UE, sydd wedi'i chynnal mewn partneriaeth a deialog agos â'r Cadeiryddion ymchwil, yn ogystal â'r priod sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Bu cydberthynas waith agos sydd wedi datblygu dros amser. Yn fwy diweddar, mae'r gydberthynas hon yn cynnwys Rhwydwaith Arloesi Cymru ac mae wedi annog trafodaeth agored ynghylch materion megis cyllid UKRI a blaenoriaethau ymchwil i Gymru.
Daw'r Rhaglen gyfredol (Sêr Cymru 2) i ben ar 31 Mawrth. Mae'n cael ei monitro'n drylwyr gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac mae'n destun proses graffu fanwl. Bydd hefyd yn destun gwerthusiad diwedd rhaglen, sydd eisoes wedi'i chomisiynu. Wrth symud ymlaen, bydd angen i gam newydd â llai o gyllid, o ganlyniad i ddiffyg cyllid gan Lywodraeth y DU yn lle cyllid yr UE a'r trefniadau cyflawni ar gyfer cyllid o'r fath, weithio mewn ffordd gwbl wahanol i drefniant hybrid cyfredol yr UE. Bydd y fframwaith ar gyfer y cam nesaf yn parhau'n hyblyg fel y gellir adolygu blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ac ymateb iddynt, cysoni gweithgareddau sy'n bodoli eisoes yn fewnol ac yn allanol, sicrhau rhagoriaeth ymchwil a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio yng Nghymru.
O fewn y Llywodraeth, ceir cyfres o fecanweithiau i weithio ar draws adrannau ym maes ymchwil ac arloesi. Sefydlwyd y Grŵp Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu Strategol (RISE) yn 2019 er mwyn codi ymwybyddiaeth a chydlynu gweithgareddau ymchwil ac arloesi yn well ymysg swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio yn yr is-adrannau polisi a chyflawni gweinidogol gwahanol sy'n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu. Sefydlwyd cyfarfodydd misol er mwyn darparu fforwm i hwyluso'r broses o gyfnewid gwybodaeth, cydlynu deallusrwydd, ystyried gohebiaeth ag adrannau perthnasol y DU, yn ogystal ag ystyried ymatebion Llywodraeth Cymru i ddylanwadau polisi a strategaeth allanol fel y rheini sy'n deillio o Lywodraeth y DU, a chytuno arnynt.
Mae'r broses o ddatblygu strategaeth drawslywodraethol, fel y Strategaeth Arloesi, yn sicrhau yr ymgysylltir ag adrannau ym mhob rhan o'r Llywodraeth a rhanddeiliaid, er mwyn gwneud yn siŵr y caiff blaenoriaethau polisi cydlynol eu cynnwys. Mae'r Strategaeth Arloesi yn hanfodol i sicrhau twf a meithrin sgiliau yn ein sylfaen ymchwil ac arloesi sefydledig. Bydd yn rhoi dadansoddiad o gryfderau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn ganllaw i gyrff ymchwil a rhanddeiliaid eraill ar sut i sianelu eu gweithgareddau tuag at gyflawni cenadaethau'r Strategaeth.
Drwy ymgysylltu'n rheolaidd â'r sector addysg uwch ac addysg bellach, mae swyddogion yn ymwybodol o gyfleoedd i fuddsoddi ymhellach os daw cyllid ar gael, naill ai'n fewnol neu drwy ffynonellau cyllid allanol. Yn dibynnu ar natur y ffynonellau hyn, mae'n bosibl y cânt eu trafod â swyddogion ym mhob rhan o'r Llywodraeth; caiff unrhyw beth sy'n ymwneud ag ymchwil a datblygu o reidrwydd ei ystyried gan swyddogion sy'n gyfrifol am ymchwil, datblygu ac arloesi er mwyn cytuno ar y ffordd y dylai'r cyllid gael ei ddyrannu ac er budd pa feysydd blaenoriaeth. Caiff cynigion eu cyflwyno i Weinidogion i'w hystyried yn unol â'r prosesau sefydledig. Lle bo materion yn croesi portffolios, caiff pob Gweinidog perthnasol ei gynnwys yn y broses gynghori a'r broses gwneud penderfyniadau.
Enghraifft ddiweddar yw'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i ddiffyg penderfyniad ynglŷn â'r cysylltiad â rhaglen Horizon neu ei chynllun amgen. Cytunodd y Gweinidogion perthnasol, gan gynnwys y Gweinidog Addysg, Gweinidog yr Economi, y Gweinidog Cyllid a Phrif Weinidog Cymru, i ddyrannu'r cyllid hwn i ymchwil addysg uwch. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Gogledd Iwerddon ar feysydd o ddiddordeb cyffredin, gan gynnwys cyllid ymchwil a datblygu. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â swyddogion o bedair gwlad y DU a chynrychiolwyr o gyrff cyllid cenedlaethol. Heb gyllid yr UE, mae cydberthynas waith agos yn hanfodol ac mae Gweinidogion wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn â'r rheidrwydd i gynnwys Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu ffrydiau cyllido Llywodraeth y DU.
Er mwyn gwerthuso effaith a gwerth am arian, ceir mecanweithiau sefydledig mewn perthynas â chyrff hyd braich. Mae'r Gweinidog yn cyfarfod â Chadeirydd a/neu Brif Swyddog Gweithredol CCAUC bob chwarter er mwyn adolygu cynnydd gweithgareddau'r llythyr cylch gwaith. Mae swyddogion CCAUC a Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal cyfarfodydd monitro chwarterol ffurfiol yn ychwanegol at yr ymgysylltu anffurfiol rheolaidd sy'n digwydd rhwng swyddogion er mwyn trafod materion a heriau sy'n effeithio ar y sector a chynnydd meysydd penodol o weithgarwch.
Mae'r ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn fframwaith uchel ei barch yn y DU ar gyfer asesu effaith ac ansawdd ymchwil. Mae'n rhoi darlun cyfoethog o hyd a lled ymchwil yng Nghymru, ac yn helpu i nodi meysydd o ragoriaeth. Gellir defnyddio mesurau eraill, fel cipio grantiau cystadleuol, partneriaethau cydweithredol, effaith ryngwladol, cydweithio academaidd-corfforaethol ac allbwn ymchwilwyr i asesu perfformiad y system ymchwil yng Nghymru. Yn 2021, cyhoeddodd Prif Swyddog Gwyddonol Cymru Asesiad o sail ymchwil Cymru yn seiliedig ar berfformiad, a ddangosodd effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y sector ymchwil.
|
Argymhelliad 16. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn argymell ar y cyd y dylai Llywodraeth Cymru, yn ei hymatebion i'n hadroddiadau, ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2023-24 a phob chwe mis wedi hynny, ddarparu data i'r ddau bwyllgor, wedi'u dadansoddi fesul bwrdd iechyd lleol, yn nodi'r canlynol: · amseroedd aros ar gyfer yr apwyntiad cyntaf â CAMHS; · cyfran y bobl ifanc y cynigir ail apwyntiad iddynt; ac · amseroedd aros ar gyfer ail apwyntiad. |
Ymateb: Gwrthod
Caiff data ar apwyntiadau cyntaf â CAMHS arbenigol, sy'n dangos canran neu nifer gwirioneddol y cleifion sy'n aros am lai na 28 diwrnod am apwyntiad cyntaf, eisoes eu cofnodi'n fisol: Amseroedd aros am apwyntiad cyntaf (llyw.cymru).
Caiff data ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol i bobl ifanc dan 18 oed, sy'n dangos atgyfeiriadau am asesiad, amseroedd aros am asesiad ac amseroedd aros am ymyriadau therapiwtig, eu cofnodi eisoes: Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (llyw.cymru).
Ni chaiff data eu casglu ar apwyntiadau dilynol, ond rydym yn anelu at wella data ar apwyntiadau dilynol cleifion allanol fel rhan o'r gwaith ar y set ddata craidd iechyd meddwl, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith hwn maes o law.
|
Argymhelliad 17. Rhaid i Lywodraeth Cymru egluro’r canlynol mewn perthynas â’i rhaglen waith i leihau’r costau sylweddol i awdurdodau lleol am gyflogi staff gwasanaethau cymdeithasol asiantaeth: · Cylch gorchwyl y rhaglen · Llinellau amser allweddol mewn perthynas â'i chyflawni · Y rhanddeiliaid a fydd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru · Trefniadau llywodraethu’r rhaglen: sut mae’r gwaith yn cael ei gyflawni, ei fonitro a’i werthuso · Amcangyfrif o'r cyllid a ddyrennir i'r rhaglen fesul blwyddyn ariannol. |
Ymateb: Derbyn
Mae'r rhaglen waith i gefnogi awdurdodau lleol i leihau costau cyflogi staff asiantaeth mewn gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei harwain gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru.
Wedi'i chefnogi drwy gyllid gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y prosiect, mae ADSS Cymru yn arwain gwaith i adolygu costau gweithwyr asiantaeth mewn gwasanaethau plant, gan ddwyn ynghyd y meddylfryd ynghylch gwaith asiantaeth yn gyfres o argymhellion i awdurdodau lleol eu hystyried, wedi'u cysylltu â memorandwm cydweithio.
Bydd y cam cychwynnol hwn o'r gwaith, lle bydd Llywodraeth Cymru yn rhanddeiliad, yn cynnwys archwilio'n ddyfnach i'r data a gesglir gan Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd Asiantaeth, yn ogystal â dadansoddi a datblygu Memorandwm Cydweithio i Gymru.
Mae ADSS Cymru wedi cytuno i rannu'r ddogfen Cylch Gorchwyl ddrafft â'r pwyllgor (gweler Atodiad 1).
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cyllido'r rhaglen waith hon yn uniongyrchol, ac nid oes unrhyw ddyfarniad wedi'i wneud. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi darparu cymorth drwy ei setliad cymorth grant i gefnogi'r gwaith tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.
|
Argymhelliad 18. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi dadansoddiad ar lefel y prosiect o’r gronfa newid ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y gronfa diwygio radical, a chyllid ar gyfer dileu elw o ofal maeth. Rhaid i'r dadansoddiad hwnnw gynnwys crynodeb o ddiben y prosiectau hynny, y prif bethau y gellir eu cyflawni, y cyllid a ddyrennir i’w cyflawni – a’r amserlenni sy'n gysylltiedig â'u cyflawni. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd esbonio pam na chafodd y Pwyllgor yr wybodaeth hon fel rhan o’i thystiolaeth ysgrifenedig inni ar 21/12/2022 fel y gofynnwyd. |
Ymateb: Derbyn
Ymddiheurwn am beidio â darparu'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ar 21 Rhagfyr 2022. Deallaf fod angen i'r Pwyllgor gael ymateb mor llawn â phosibl i'w geisiadau am wybodaeth. Fodd bynnag, roeddem ar gam ffurfiannol ar y pryd ac rydym wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi dylanwadu ar ein penderfyniadau o ran sut i dargedu a llywio'r defnydd o ffrydiau cyllido gwahanol ac wedi ein galluogi i roi ymateb gwell a manylach i'r Pwyllgor.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys:
· Rhaglen o ymweliadau gweinidogol ag awdurdodau lleol – rydym bellach yn agosáu at ddiwedd cyfres o ymweliadau gweinidogol a gynhaliwyd â phob awdurdod lleol yng Nghymru i drafod y gwaith o drawsnewid Gwasanaethau Plant ac ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu.
· Llywodraethu'r Rhaglen Drawsnewid – rydym hefyd bellach wedi sefydlu ein strwythur llywodraethu newydd i oruchwylio ein rhaglen waith i Drawsnewid Gwasanaethau Plant yng Nghymru a chynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni'r Rhaglen Drawsnewid ar 24 Ionawr.
· Strategaethau Comisiynu Lleoliadau – rydym wedi dadansoddi Strategaethau Comisiynu Lleoliadau pob un o'n hawdurdodau lleol ac wedi nodi lle mae angen rhagor o waith a chymorth.
· Uwchgynhadledd Ymadawyr Gofal – Rydym wedi dadansoddi'r adborth a gasglwyd yn yr Uwchgynhadledd Profiad o Ofal gyntaf. Mae'r adborth wedi llywio ein cynlluniau ar gyfer dyrannu ein ffrydiau cyllido gwahanol.
Mae'r wybodaeth ychwanegol y gofynnodd y Pwyllgor amdani ynglŷn â'r dadansoddiad ar lefel y prosiect o’r gronfa newid ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y gronfa diwygio radical, a chyllid ar gyfer dileu elw o ofal maeth wedi'i darparu yn Atodiad 2.
|
Argymhelliad 19. Rhaid i Lywodraeth Cymru, o fewn chwe mis, ddatblygu cynllun gweithredu i ddileu tlodi plant yng Nghymru. Rhaid i’r cynllun gweithredu nodi camau gweithredu clir, wedi’u costio, y gellir eu cyflawni, y gellir eu mesur ac ag amserlen benodol, sydd o fewn cwmpas pwerau Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant yng Nghymru. |
Ymateb: Derbyn mewn Egwyddor
Fel y cydnabu'r Pwyllgor, prin yw'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth Cymru i drechu tlodi ac, yn benodol, tlodi plant. Er mwyn gostwng lefelau tlodi plant yn sylweddol, heb sôn am ddileu tlodi plant yn llwyr, byddai angen newid radical i ddull gweithredu Llywodraeth y DU. Er enghraifft, rydym wedi galw droeon ar Lywodraeth y DU i newid y terfyn dau blentyn, y cap budd-daliadau a'r cyfnod aros o bum wythnos ar gyfer taliad cyntaf Credyd Cynhwysol, er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant.
Serch hynny, rydym yn cydnabod y gallai dull cydgysylltiedig o fewn Llywodraeth Cymru a gyda phartneriaid cyflawni ledled Cymru, gyda chamau gweithredu clir a chyson yn genedlaethol ac yn lleol ac ar draws pob sector, arwain at newid cadarnhaol ac effaith barhaol.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 Llywodraeth Cymru yn pennu ein nodau eang i helpu i ddileu tlodi plant ac yn nodi ein dyletswydd i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant Cymru a'i hadolygu.
O ystyried effeithiau'r pandemig, effeithiau hirdymor y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a'r argyfwng costau byw, mae camau gweithredu diweddaraf Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi wedi canolbwyntio ar liniaru effaith uniongyrchol tlodi. Er bod angen i'r gwaith hanfodol hwn barhau, bu galwadau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Strategaeth Tlodi Plant er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol yn well, ac i ddarparu cyfeiriad strategol cenedlaethol i randdeiliaid a phartneriaid gysoni ag ef a ffocysu eu dulliau cyflawni eu hunain. Yn wyneb heriau gwirioneddol mewn perthynas ag anghenion uniongyrchol plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, mae dull hirdymor o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi yn bwysicach nag erioed er mwyn sicrhau effaith fesuradwy a pharhaol ar dlodi yng Nghymru.
Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddiwygio Strategaeth Tlodi Plant Cymru erbyn diwedd y flwyddyn hon. Bydd y strategaeth ddiwygiedig yn rhoi'r fframwaith i ategu polisïau sy'n bodoli eisoes a'r rhai sy'n dod i'r amlwg y caiff anghenion uniongyrchol a hirdymor plant mewn tlodi a'u teuluoedd eu diwallu oddi tanynt. Bydd y strategaeth hefyd yn nodi dull gweithredu tymor hwy ar gyfer y llywodraeth a rhanddeiliaid ehangach yng Nghymru i gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan wella llesiant a deilliannau i blant wrth iddynt dyfu, ac yn y dyfodol.
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi uchelgeisiau clir i lunio Cymru fwy ffyniannus a mwy cyfartal ac i sicrhau deilliannau gwell i bobl, nawr ac yn y dyfodol. Mae trechu tlodi a'r anghydraddoldebau cysylltiedig wrth wraidd yr uchelgeisiau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n eang â phartneriaid ledled Cymru i ddatblygu'r Strategaeth Tlodi Plant newydd ar y cyd, er mwyn dangos profiad rhanddeiliaid a phrofiad bywyd gwerthfawr o dlodi ar sail drawslywodraethol.
Rydym hefyd yn ystyried camau i'w cyflwyno ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi. Mae hyn cynnwys cynnig i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu fframwaith monitro ac effaith a ddefnyddir i nodi'r dystiolaeth i fesur effaith y strategaeth, camau gweithredu Llywodraeth Cymru a chamau gweithredu rhanddeiliaid ledled Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant, ac adrodd ar yr effaith honno.
Atodiad 1 – Cylch Gorchwyl drafft ADSS Cymru

Cylch Gorchwyl – Grŵp Gorchwyl a
Gorffen
Sefydlogi
Asiantaethau Recriwtio ar gyfer Gwasanaethau Plant
Gwybodaeth
Gefndir: -
Cydnabyddir fod y farchnad bresennol a chost Gweithwyr
Cymdeithasol Asiantaeth yn cael effaith sylweddol ar allu
awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol ar draws
Gwasanaethau Plant ac Oedolion.
Mae ADSS Cymru
wedi cydnabod bod angen dull mwy cydweithredol a blaengar i fynd
i'r afael â'r broblem sy'n gynhenid yn y gweithle, gan gyfuno
camau gweithredu byrdymor ag ymrwymiad i ddull mwy strategol.
Felly, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu i ddarparu
gwybodaeth leol ac arbenigedd i'r prosiect cyffredinol a'r
strategaeth tymor canolig a thymor hwy.
Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn atebol am y
canlynol:
· Sefydlu a chynnal cydweithio rhwng awdurdodau a rhanbarthau
· Chwalu'r rhwystrau i gyflawni cynllun y prosiect yn llwyddiannus
· Cynnal ffocws y Grŵp ar y cwmpas, y deilliannau a'r buddiannau y cytunwyd arnynt, bob amser
· Monitro'r ffactorau sydd y tu hwnt i reolaeth y grŵp sy'n hanfodol i'w lwyddiant, a'u rheoli
· Uwchgyfeirio unrhyw risgiau/heriau i ADSS Cymru
Term
Mae'r Cylch
Gorchwyl hwn yn weithredol tan fis Ionawr 2024 a bydd yn barhaus
hyd nes y caiff ei derfynu drwy gytundeb rhwng y partïon dan
sylw
Aelodaeth
Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn
cynnwys y canlynol:
· Cadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (Noddwr y Prosiect]
· Cyfarwyddwr Grŵp Arweinyddiaeth y Gweithlu ADSS Cymru
· Arweinydd y Gweithlu – Uned Fusnes ADSS
· Cynrychiolwyr Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan
· Cynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Comisiynu
· Cynrychiolwyr Adnoddau Dynol
· Cynrychiolydd Gofal Cymdeithasol Cymru
· Cynrychiolydd CLlLC
· Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru
· Aelodau Tîm y Prosiect
Bydd aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ymrwymo i wneud y
canlynol:
· Mynychu holl gyfarfodydd a drefnwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
· Hyrwyddo uchelgais y prosiect hwn o fewn eu meysydd gwaith a'r tu hwnt iddynt
· Rhannu pob gohebiaeth a gwybodaeth mewn modd amserol
· Gwneud penderfyniadau amserol a gweithredu fel na chaiff y prosiect ei oedi
· Rhoi gwybod i aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os bydd unrhyw fater yn codi y gellid ystyried ei fod yn effeithio ar ddatblygiad y prosiect
Cyfarfodydd
· Caiff pob cyfarfod ei gadeirio gan Gadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan. Os na fydd y Cadeirydd ar gael, caiff y cyfarfod ei gadeirio gan Jenny Williams, Cyfarwyddwr Arweiniol ADSS Cymru – Y Gweithlu
· Cworwm cyfarfod fydd tua 28 o aelodau o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen
· Caiff penderfyniadau eu gwneud drwy gonsensws (h.y., lle bydd aelodau yn fodlon ar y penderfyniad er nad hwnnw oedd eu dewis cyntaf o bosibl). Os na fydd hyn yn bosibl, bydd Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn gwneud penderfyniad terfynol
· Caiff agendâu cyfarfodydd, crynodeb lefel uchel o'r cyfarfod a chofnod o'r camau gweithredu eu darparu gan Uned Fusnes ADSS Cymru
· Cynhelir cyfarfodydd naill ai'n fisol neu bob chwe wythnos dros Microsoft Teams, am hyd at 1.5 awr.
Atodiad 2 – Dadansoddiad ar lefel y prosiect o’r gronfa newid ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y gronfa diwygio radical a chyllid ar gyfer dileu elw o ofal maeth.
1. Y Gronfa Newid ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
Isod ceir manylion cyllideb gyffredinol y Gronfa Newid ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
|
|
2022/23 |
2023/24 |
2024/25 |
2025/26 |
|
Y Gronfa Newid* |
£6,089m |
£3,685m |
£4,397m |
£2,826m |
* Ffigurau bras yw'r rhain o ystyried natur y gronfa, a gefnogir gan ad-daliadau o fuddsoddiadau blaenorol a wnaed gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed ac, felly, gallant newid.
Diben cyffredinol Y Gronfa Newid ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
Crëwyd y Gronfa Newid ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn 2021 drwy'r Gronfa Buddsoddi i Arbed weddilliol. Diben y Gronfa yw cefnogi agenda Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Erys y gyllideb o fewn y Prif Grŵp Gwariant Cyllid a Llywodraeth Leol a bu ar gael i swyddogion polisi Trysorlys Cymru a Gofal Cymdeithasol i'w galluogi i gyflwyno cynigion wedi'u datblygu'n briodol â sefydliadau partner.
Eiriolaeth Rhieni
Swm y cyllid
£1.6m dros dair blynedd (2023/24 – 2025/26)
Diben y cyllid
Diben eiriolaeth rhieni yw cefnogi rhieni y mae eu plant ar ffiniau gofal i ymgysylltu'n gadarnhaol â gweithwyr cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, y llysoedd teulu a gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn datrys materion sy'n cael effaith negyddol ar eu teulu. Gall hyn helpu i osgoi cynnwys gwasanaethau cymdeithasol statudol, atal anghenion rhag gwaethygu a lleihau’r risg y bydd plant yn ymuno â’r system ofal.
Mae gwasanaethau eiriolaeth rhieni yn gweithredu ar raddfa gyfyngedig ar hyn o bryd yn ardaloedd rhai awdurdodau lleol. Rydym yn gweithio gyda darparwyr presennol yn y trydydd sector (Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, TGP Cymru a’r Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni) er mwyn helpu i gynyddu eu gwasanaethau lleol ar sail ôl-troed rhanbarthol, cyn ehangu i ardaloedd eraill o Gymru, fel rhan o’r broses o’u cyflwyno'n genedlaethol.
Pethau i’w cyflawni/manylion y prosiect
Bydd teuluoedd yn cael cymorth eiriolaeth rhieni un i un i'w helpu i nodi problemau a'u datrys, a byddant yn cael eu cefnogi mewn cyfarfodydd i hyrwyddo eu llais a llywio systemau. Bydd rhieni hefyd yn gallu manteisio ar fforymau/rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid.
Cynnig y Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni yw y dylid creu Gwasanaeth Eiriolaeth a Chymorth gan Gymheiriaid i Rieni, gan weithio gyda sefydliadau trydydd sector i geisio hyrwyddo llais rhieni, atgyfnerthu teuluoedd a chyflogi'r rhai sydd â phrofiadau bywyd.
Bydd y prosiect yn galluogi rhieni i gymryd rhan fwy gweithredol yn y gwaith cynllunio ar gyfer eu plant; teimlo'n fwy hyderus ac abl i fynegi eu pryderon a'u blaenoriaethau; teimlo'n llai ynysig a bod ganddynt fwy o gysylltiad ag eraill; cael gafael ar wasanaethau cymorth yn fwy effeithiol a phontio'r bwlch rhwng gweithwyr proffesiynol a rhieni a fydd yn atgyfnerthu'r ymddiriedaeth a'r cydberthnasau rhyngddynt, gan arwain at ddeilliannau gwell i blant.
Maethu Cymru
Swm y cyllid
£4.436m dros dair blynedd (2022/2026 – 2025/26.
Diben y cyllid
Cefnogi brand 'Maethu Cymru' a'i rwydwaith o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2021. Mae rhwydwaith 'Maethu Cymru' yn dwyn ynghyd dimau maethu'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae gan Maethu Cymru gysylltiadau cynhenid ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal a'r angen i sicrhau digonolrwydd yn y sector preifat ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae gwaith Maethu Cymru yn hanfodol i gefnogi'r agenda hwn.
Pethau i’w cyflawni/manylion y prosiect
Mae Maethu Cymru wedi cyflwyno cynnig sy'n ceisio buddsoddiad er mwyn gwneud y gwahaniaeth sydd ei angen mewn tri maes hanfodol i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu a nodir uchod:
(a) Swyddogion Recriwtio Dynodedig
Caiff Arweinydd Recriwtio Maethu Cymru dynodedig ei gyflwyno ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru, a fydd yn sicrhau bod capasiti ledled Cymru i wella amseroedd ymateb a chynnig profiad cadarnhaol ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i ymgeiswyr. Bydd hyn yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cwblhau galwadau recriwtio, datganiadau o ddiddordeb, gwiriadau yn y cartref ac ymweliadau cychwynnol mewn modd prydlon a chadarnhaol, a hynny'n gyson.
(b) Capasiti Asesu a Chefnogi
Caiff cyllid ei ddosbarthu'n gyfartal i bob awdurdod lleol er mwyn meithrin capasiti mewnol dynodedig i asesu a chefnogi gofalwyr maeth newydd ac sy'n trosglwyddo Caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio mewn modd hyblyg yn seiliedig ar anghenion yr awdurdod lleol unigol. Caiff ei gydlynu'n genedlaethol drwy Maethu Cymru, a fydd yn sicrhau mai dim ond i asesu a chefnogi gofalwyr maeth prif ffrwd y caiff yr arian ei ddefnyddio. Bydd mwy o gapasiti yn yr awdurdod lleol i asesu a chefnogi gofalwyr maeth.
(c) Cynnal Seilwaith
Bydd y cyllid yn helpu i lywodraethu a datblygu Maethu Cymru mewn modd cynhwysfawr a chyflawni ei holl flaenoriaethau. Bydd y cyllid yn golygu bod modd sefydlu'r tîm canolog a chynaliadwy wedi'i ariannu'n llawn sydd ei angen ar Maethu Cymru i gefnogi ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a nodir uchod.
Mabwysiadu
Swm y cyllid
£1.6m dros dair blynedd i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
Diben y cyllid
Cynnal y gwelliannau presennol i'r gwasanaeth mabwysiadu yng Nghymru a diwygio mabwysiadu yng Nghymru drwy gefnogi gwelliannau ar draws y rhanbarthau, cwmpasu cynllun Mynediad at Gofnodion i oedolion mabwysiedig a chreu modiwlau ar-lein i feithrin gweithlu sy'n ymwybodol o fabwysiadu.
Pethau i’w cyflawni/manylion y prosiect
1. Cynnal Gweithgarwch â Blaenoriaeth:
· TESSA – yn darparu cymorth ac ymyriadau cynnar sy'n ystyriol o drawma i deuluoedd ag anghenion sy'n dod i'r amlwg drwy gynnig gwerthusiadau seicolegol o anghenion plant a fabwysiedir; paru rhieni â mabwysiadwyr profiadol a hyfforddedig; a chynnal cyrsiau rhianta sy'n ystyriol o drawma chwe wythnos.
· Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus – gweithgarwch marchnata a chysylltiadau cyhoeddus amrywiol i gynyddu nifer y mabwysiadwyr a chymorth.
2. Diwygio Mabwysiadu:
· Pontio a Chymorth Cynnar – yn canolbwyntio ar y defnydd o linellau amser trawma ac anogaeth a diwrnodau 'deall y plentyn'.
· Cymorth Mabwysiadu – yn darparu cynlluniau cymorth rhagweithiol ac yn cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc anghenus yn eu harddegau.
· Cysylltu â rhieni genedigol – Cynnig cysylltiadau, cyfarfodydd untro rhwng rhieni genedigol a mabwysiadwyr, adolygiadau rheolaidd a chynyddu lefel y cyswllt rhwng brodyr a chwiorydd.
· Rhoi fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru ar waith – Penodi cydlynydd cenedlaethol rhan-amser er mwyn helpu i roi'r fframwaith ar waith mewn rhanbarthau ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
· Cwmpasu Gwasanaeth Mynediad at Gofnodion Cymru – mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dymuno datblygu gwasanaeth mynediad at gofnodion cenedlaethol gwell, wedi'i gysylltu o bosibl â gwasanaeth cymorth gan gymheiriaid a ddarperir gan oedolion mabwysiedig i unigolion mabwysiedig sy'n cael gafael ar eu cofnodion.
· Gweithlu sy'n ymwybodol o fabwysiadu – Gwella gwybodaeth er mwyn meithrin gweithlu ymatebol sy'n ymwybodol o fabwysiadu.
Cynllun Peilot Cam i Fyny Cam i Lawr
Swm y cyllid
£879,000 dros dair blynedd (2023/24 – 2025/26)
Diben y cyllid
Rhaglen a ddarperir gan y Rhwydwaith Maethu yw Cam i Fyny Cam i Lawr, sydd â'r nod o leihau nifer y plant sy'n ymuno â'r system ofal a gwella deilliannau i blant a'u teuluoedd.
Drwy'r rhaglen, bydd gofalwyr maeth cymorth i deuluoedd hyfforddedig yn darparu cymorth ataliol am gyfnod penodol o amser i hyd at bedwar teulu ar yr un pryd. Bydd y gofalwyr maeth cymorth i deuluoedd yn mentora eu teuluoedd ac yn cynnig seibiannau byr i blant, gan gynnig sefydlogrwydd a rhoi amser i rieni fynd i'r afael â'u heriau â chymorth.
Pethau i’w cyflawni/manylion y prosiect
Bydd y prosiect yn cynnal dau gynllun peilot Cam i Fyny Cam i Lawr yng Nghymru dros dair blynedd gyda'r nod o wireddu'r deilliannau canlynol:
· Llai o blant sy'n derbyn gofal;
· Mwy o blant yn cael eu hailuno'n barhaus â'u teulu.
· Bydd rhieni'n meithrin y gallu, y sgiliau a'r wybodaeth i oresgyn adfyd a meithrin cydberthnasau teuluol diogel a sefydlog.
· Bydd gan blant yr adnoddau i'w helpu i hunanreoli; bydd rhieni'n gallu cyd-reoli eu plant;
· Bydd rhieni a phlant yn meithrin cysylltiadau cryfach â'u cymunedau, gan atgyfnerthu'r cymorth sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau a'u hatal.
· Bydd rhieni a phlant yn fwy abl i ddysgu a thyfu fel teulu; bydd mwy o rieni a phlant yn achub ar gyfleoedd i ddysgu.
2. Y Gronfa Diwygio Radical
Isod ceir manylion cyllideb gyffredinol y Gronfa Diwygio Radical.
|
|
2022/23 |
2023/24 |
2024/25 |
Cyfanswm |
|
Diwygio Radical |
£3m |
£10m |
£9m |
£22m |
Diben cyffredinol y Gronfa Diwygio Radical
Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i ystyried diwygio gwasanaethau presennol i blant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal mewn modd radical, er mwyn cyflawni gweledigaeth ac uchelgais newydd ar gyfer gwasanaethau plant, yn seiliedig ar ymarfer cyson, llai o ymddygiadau sy'n amharod i fentro a dulliau adferol cenedlaethol cenedlaethol wedi'u mabwysiadu ledled Cymru.
Yn hollbwysig, bydd angen mwy o ymyriadau a chymorth er mwyn i awdurdodau lleol gyflawni ein huchelgais i leihau nifer y plant mewn gofal yn sylweddol, drwy ddarparu ymyriadau ataliol i deuluoedd â phlant sydd ar ffiniau gofal ac ailuno plant â'u teuluoedd lle y bo'n briodol. Dyma fu ffocws rhaglen o ymweliadau Gweinidogol â phob awdurdod lleol yng Nghymru.
Cyllid ar Lefel y Prosiect
Yn ystod haf 2022, gofynnwyd i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ar gyfer y cyllid hwn i’w helpu i gyflawni’r ymrwymiad i wneud newidiadau i gefnogi plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd fel rhan o gynlluniau ar gyfer diwygio radical. Er bod gormod o gynigion i’w nodi’n unigol, roeddent yn cynnwys ffocws clir ar symud plant allan o ofal preswyl yn ôl i amgylchedd teuluol, darparu gwasanaethau lleol pwrpasol, gan gynnwys darpariaeth arbenigol i blant ag anghenion mwy cymhleth ac, uwchlaw popeth, gwella deilliannau i blant.
Y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol
Fel rhan o’n gwaith i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, rydym yn datblygu Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol. Bydd y Fframwaith yn nodi’r modd rydym yn gweithio yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gryfderau er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i’n plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed.
Bydd y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol yn gyfuniad o ofynion gorfodol ac awgrymiadau ynghylch ymarfer, wedi’u gwreiddio mewn ymarfer perthynol sy’n seiliedig ar gryfderau. Rhaid i agweddau allweddol ar yr ymarfer fod yn gyson ledled Cymru er mwyn i bob plentyn a theulu gael gwasanaeth tebyg ar drothwy cyffredin. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ymarfer mwy cyffredin a gwaith mwy di-dor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan adeiladu ar y gwaith da a wnaed hyd yma.
Bydd y Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol yn ychwanegu gwerth at ymarfer lleol ac yn galluogi cysondeb, gan ganiatáu ar gyfer amrywiadau lleol hanfodol o ran ei gyd-destun. Mae elfen fach o’r cyllid hefyd yn cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu’r Fframwaith.
Prosiectau Eraill
Rydym hefyd yn darparu cyllid o’r gyllideb diwygio radical i Maethu Cymru er mwyn ymgymryd â gwaith cwmpasu ar y costau sy’n gysylltiedig â chysoni ffioedd a lwfansau i ofalwyr maeth, a bydd yn sefydlu grŵp arbenigol i ystyried sut y gallwn roi mwy o gefnogaeth i Warcheidwaid Arbenigol yng Nghymru fel rhan o’r agenda diwygio radical. Gall gwaith y grŵp arbenigol hefyd gael ei gefnogi drwy'r gronfa diwygio radical.
3. Dileu elw
Swm y cyllid
Mae’r tabl isod yn nodi faint o gyllid a ddyrannwyd ar gyfer ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ‘Ddileu Elw’.
|
|
2022/23 |
2023/24 |
2024/25 |
Cyfanswm |
|
Dileu Elw |
£10m |
£16m |
£20m |
£46m |
Diben y cyllid
Bydd y cyllid yn galluogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddileu elw o wasanaethau plant i gael ei gyflawni. Bydd yn helpu i sicrhau na chaiff dyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal eu rhoi ar gontract allanol i gwmnïau sy’n canolbwyntio ar elw a'u bod yn parhau’n rhan o gylch gwaith awdurdodau lleol neu ddarparwyr sydd wedi newid i fodelau nid-er-elw, fel darparwyr yn y trydydd sector neu’r rheini a sefydlwyd drwy’r mentrau cymdeithasol, y mentrau cydweithredol a’r darpariaethau wedi’u harwain gan ddefnyddwyr a nodir yn Neddf 2014.
Un o'r egwyddorion allweddol yw na chaiff arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety i blant sydd â phrofiad o ofal ei dynnu fel elw ond, yn lle hynny, y caiff ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau deilliannau gwell i blant, gwella’r gwasanaeth a datblygu’r gweithlu.
Ffocws y cyllid dros y pedair blynedd nesaf fydd gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, awdurdodau lleol a phartneriaid i gynyddu’r ddarpariaeth gyhoeddus ac nid-er-elw er mwyn rhoi sylfaen gref i bontio’n ddiogel i ofal nid-er-elw.
Cyllid ar Lefel y Prosiect
Fel yn achos y cyllid diwygio radical, mae awdurdodau lleol wedi cyflwyno cynigion am gyllid i’w helpu i gyflawni’r ymrwymiad i ddileu elw. Ffocws y cynigion hyn yw datblygu darpariaeth gofal preswyl a gofal maeth fewnol neu nid-er-elw er mwyn gwella deilliannau plant a phobl ifanc. Ymhlith enghreifftiau o’r mathau o gynigion a gefnogir mae’r canlynol:
· Mwy o gefnogaeth i ofalwyr maeth, gan gynnwys datblygu gwasanaethau cymorth arbenigol.
· Gwella’r amrywiaeth o opsiynau gofal maeth i blant.
· Recriwtio ac asesu mwy o ofalwyr maeth awdurdodau lleol.
· Lleoliadau maeth Cam i Lawr
· Datblygu darpariaeth gofal preswyl fewnol a meithrin gwydnwch, gan gynnwys uwchsgilio staff ac ymarferwyr awdurdodau lleol
· Datblygu gwasanaethau seibiant byr mewnol
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn eu cefnogi i gyflawni’r uchelgeisiau a bennwyd ganddynt yn eu cynigion am gyllid diwygio radical a dileu elw fel rhan annatod o gyfres a gynlluniwyd o gyfarfodydd, gan sicrhau y caiff deilliannau a gynlluniwyd eu cyflawni, a chanolbwyntio ar sut y caiff unrhyw arbedion eu hail-fuddsoddi. Mae proses monitro grantiau gadarn ar waith er mwyn sicrhau y caiff eu cyflawni dros gyfnod y cyllid y grant. Byddwn hefyd yn sicrhau, drwy gymunedau ymarfer a gweithdai, y caiff gwersi a ddysgwyd eu rhannu a’u hymgorffori.